DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL 

 

Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru

DYDDIAD 

8 Mawrth 2019

GAN

Vaughan Gething AC - y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru, rwyf yn falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol o £2 filiwn, a fydd ar gael dros y tair blynedd nesaf, i wella gwasanaethau'r GIG i bobl ag anabledd dysgu.

 

Yn 2018, lansiwyd rhaglen waith drawslywodraethol gynhwysfawr; “Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau”. Cafodd y rhaglen ei llywio gan adolygiad eang a ymchwiliodd i sut y gellid cryfhau gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu.  Gwnaeth yr adolygiad 24 o argymhellion ar gyfer gweithredu ar draws tai, iechyd, addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol. Cafodd pob un o'r argymhellion hyn eu derbyn gan y cabinet ac mae gwaith yn mynd rhagddi yn nawr i'w darparu dros y tair blynedd nesaf.

 

Caiff y £2m a gyhoeddwyd heddiw ei ddefnyddio i sicrhau gwelliannau sy'n gysylltiedig â'r camau iechyd yn y rhaglen, dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys –

 

·         Lleihau'r defnydd amhriodol o feddyginiaeth ac ataliaeth trwy gynyddu'r defnydd o ystod o ymyriadau'n sy'n seiliedig ar dystiolaeth megis Cymorth Ymddygiadol Cadarnhaol

·         Gwella nifer y bobl sy'n manteisio ar yr archwiliadau iechyd blynyddol a gynigir gan feddygon teulu i bobl ag anabledd dysgu ac ansawdd yr archwiliadau hynny.

·         Gwella gallu a chapasiti gofal acíwt yn yr ysbyty i wneud addasiadau rhesymol sy'n galluogi pobl ag anabledd dysgu i gael mynediad i wasanaethau prif ffrwd

·         Sicrhau bod pobl ag anghenion cymhleth yn cael mynediad amserol a rhwydd i wasanaethau arbenigol ym maes anableddau dysgu gan gynnwys trawma/argyfwng, yr ystod lawn o lety gan gynnwys darpariaeth ddiogel a mynediad y tu allan i oriau.

·         Rhoi'r fframwaith nyrsio mewn ysgolion arbenigol ac ysgolion prif ffrwd ar waith - sef set o safonau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer nyrsio mewn ysgolion

 

Dylai'r gwelliannau hyn wneud gwahaniaeth o bwys i fywyd pobl, gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

 

 

Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cydategu'r buddsoddiad o £100 miliwn sy'n cael ei roi trwy'r Gronfa Drawsnewid ac mae'n rhan o'r swm o £192.4 miliwn a gyhoeddwyd yng nghyllideb 2019 – 2020 i ddarparu gwasanaethau cryf a chynaliadwy a bwrw ymlaen â'n gweledigaeth a amlinellwyd yn Cymru Iachach.